#

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-0779 [DW1] 

Teitl y ddeiseb: Sganio gorfodol gan gynghorau am ficrosglodion mewn anifeiliaid anwes

Testun y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno polisi er mwyn sicrhau sganio gorfodol gan gynghorau am ficrosglodion mewn anifeiliaid anwes.

Mae milfeddygon a llochesi yn sganio anifeiliaid anwes y deuir o hyd iddynt, ond nid oes unrhyw ofyniad ar gynghorau i wneud hynny. Gall y system ficrosglodion fod yn gwbl effeithiol dim ond os yw anifeiliaid sydd â microsglodion yn cael eu sganio. Mae'r drefn hon yn hanfodol o safbwynt perchnogion sy'n gorfod dioddef yr artaith o chwilio am anifail anwes sydd wedi mynd ar goll am wythnosau neu fisoedd, a hynny heb wybod beth sydd wedi digwydd iddo.

Ar hyn o bryd, nid oes polisi ar waith i sicrhau bod cynghorau yn sganio'r cathod a'r cŵn y mae'r timau sy'n glanhau'r strydoedd ar ran y cynghorau yn dod o hyd iddynt. Os yw anifail anwes yn mynd ar goll, gall hyn fod yn brofiad arteithiol i'w berchennog. Weithiau, pan fydd cath yn mynd ar goll, ni fydd ei berchennog byth yn cael gwybod a yw wedi cael ei lladd mewn damwain ffordd, er enghraifft. Nid oes unrhyw derfyn ar y mater i berchennog yr anifail, a gall y teimlad o golled barhau'n ddi-ben-draw.

Ar hyn o bryd, dyma'r cynghorau yng Nghymru nad ydynt yn sganio anifeiliaid anwes: Gwynedd, Ynys Môn, Caerdydd, Casnewydd, Blaenau Gwent a Chastell-nedd Port Talbot. Ar hyn o bryd, mae'r cynghorau sy'n weddill yn sganio anifeiliaid. Fodd bynnag, mae'r cynghorau hyn yn cyfaddef eu bod ond yn sganio anifail pan fyddant yn penderfynu ei fod mewn cyflwr priodol i wneud hynny. Mae'r drefn hon ond yn lleddfu galar perchnogion yn rhannol; bydd nifer o berchnogion yn parhau i fod yn y tywyllwch. Mae mwyafrif yr anifeiliaid sy'n cael eu taro ar y ffyrdd yn dioddef anafiadau difrifol. Ni ddylid defnyddio anaf o'r fath fel esgus i beidio â bodloni'r ddyletswydd foesol i roi gwybod i'r perchennog. Dylid sganio pob anifail anwes, waeth beth yw ei gyflwr, a rhoi gwybod i'r perchennog. Rydym y cydnabod y gall glanhawyr stryd deimlo gofid neu drallod wrth sganio anifeiliaid sydd mewn cyflwr drwg, ond y ffaith yw y byddant yn gorfod ymdrin â'r anifeiliaid hyn waeth beth yw ein polisi arfaethedig. Maent yn ymdrin ag achosion o'r fath yn rheolaidd ar hyn o bryd. Rydym yn gwerthfawrogi natur y gofid hwn, ond ni fydd y sefyllfa sy'n bodoli ar hyn o bryd yn gwaethygu o ganlyniad i'r polisi arfaethedig, ac ni fyddai'r gofid hwn yn cyfateb i ofid perchnogion sy'n adnabod ac yn caru'r anifeiliaid hyn ar lefel bersonol ac y mae ganddynt hawl foesol i wybod beth sydd wedi digwydd iddynt.

 

Y cefndir

Microsglodynnu

Gellir microsglodynnu llawer o anifeiliaid anwes gan gynnwys cathod , cŵn , cwningod a cheffylau. Sglodyn bach electronig sy’n cael ei osod o dan groen yr anifail yw'r microsglodyn, a gall sganiwr ei ddarllen. Mae'r driniaeth yn creu rhif adnabod unigol ar gyfer pob sglodyn ac mae'r rhif adnabod hwn, ynghyd â manylion y perchennog wedyn yn cael eu storio ar gronfa ddata. Os canfyddir anifail anwes heb ei berchennog, gellir ei sganio i weld a oes ganddo ficrosglodyn ac os felly, gellir rhoi gwybod i'r perchennog.

Dim ond cŵn y mae’n orfodol eu microsglodynnu. Daeth Rheoliadau Microsglodynnu Cŵn (Cymru) 2015,  a wnaed o dan Adran 12 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006,  i rym ar 6 Ebrill 2016. Mae'r rheoliadau’n ei gwneud yn orfodol i gŵn sy'n wyth wythnos oed a throsodd gael eu microsglodynnu[1]. Mae peidio â chydymffurfio â'r rheoliadau’n golygu dirwy o hyd at £500.

 

Deddfwriaeth priffyrdd perthnasol

Yng Nghymru a Lloegr, o dan Adran 170 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988, mae’n rhaid rhoi gwybod i’r heddlu am ddamwain car gyda'r anifeiliaid canlynol:

§  Cŵn;

§  ceffylau;

§  gwartheg;

§  moch;

§  geifr;

§  defaid;

§  asynnod; a

§  mulod.

Mae adran 89 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i gadw priffyrdd yn glir o sbwriel a gwastraff. Mae gan bob awdurdod lleol ddyletswydd hefyd i sicrhau bod y briffordd (cyn belled ag y mae'n ymarferol) yn cael ei chadw'n lân.  Felly, gellir adfer carcasau anifeiliaid anwes o'r priffyrdd.

 

Lles anifeiliaid yng Nghymru

Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Rhan 1 o Atodlen 7) yn darparu cymhwysedd i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio deddfwriaeth lles anifeiliaid sylfaenol, yn amodol ar fodloni’r profion statudol a nodir yn y Ddeddf.  Mae'r sefyllfa hon yn parhau heb ei newid o dan Ddeddf Cymru 2017

At hynny, mae Deddf Lles Anifeiliaid 2006  fel y prif ddarn o ddeddfwriaeth lles anifeiliaid yng Nghymru, yn rhoi ystod o bwerau i Weinidogion Cymru, er enghraifft:

¾adran 12, - gwneud rheoliadau i hybu lles anifeiliaid;

¾adran 13 - trwyddedu neu gofrestru gweithgareddau sy'n cynnwys anifeiliaid; a

¾adran 16 - gwneud codau ymarfer.

 

Arolwg o awdurdodau lleol

Cyn cyflwyno'r ddeiseb hon, holodd y deisebwyr, #CatsMatter, awdurdodau lleol Cymru i nodi’r rhai sydd â pholisi lle mae timau glanhau strydoedd yn sganio carcasau anifeiliaid anwes am ficrosglodion, ac yn rhoi gwybod i’r perchnogion.  Mae'r ddeiseb yn nodi nad yw chwe awdurdod yn gwneud hynny. Ers i’r ddeiseb fynd ar-lein, mae'r deisebwyr wedi cysylltu â’r awdurdodau lleol eto ac o fis Medi 2017, nid yw’r pum awdurdod canlynol yn sganio carcasau anifeiliaid anwes:

·         Gwynedd;

·         Ynys Môn;

·         Caerdydd;

·         Casnewydd; a

·         Blaenau Gwent.

 

Deiseb ar gyfer 'Harvey's Law' yn Lloegr

Ar 23 Tachwedd 2013 cafodd ci o'r enw Harvey ei ladd ar yr M62 ar ôl rhedeg i ffwrdd oddi wrth ei berchnogion a oedd ar wyliau ar y pryd. Roedd Harvey wedi cael ei ficrosglodynnu ac roedd yn gwisgo coler. Er i’r perchnogion gysylltu â'r Asiantaeth Priffyrdd sawl gwaith dros gyfnod o 13 wythnos i ganfod a oeddent wedi dod o hyd i Harvey, dywedwyd wrthynt nad oedd cofnod o unrhyw gŵn wedi cael eu lladd. Fodd bynnag, yn dilyn ymgyrch gyhoeddusrwydd, llwyddodd swyddog priffyrdd a oedd wedi adfer y ci yn dilyn adroddiad gan y gyrrwr a oedd wedi ei daro, i roi gwybod i'r teulu. Yn dilyn hyn, cyflwynwyd  deiseb dan y teitl 'Harvey's Law '  i Dŷ'r Cyffredin. Roedd hon yn gofyn am ddeddfwriaeth i’w gwneud yn ofynnol i'r Awdurdod Priffyrdd (corff sy'n gweithredu yn Lloegr) sganio'r holl anifeiliaid dof a adferir o'r priffyrdd a dosbarthu’r log i'r heddlu a wardeiniaid cŵn.[DW2] 

 Ni chyflwynwyd unrhyw ddeddfwriaeth. Cafodd y ddeiseb yr ymateb  canlynol: [DW3] 

The government does understand how important pets are and regrets that, sadly, a number of them are killed or injured on our roads each year.

The Highways Agency is an Executive Agency of the Department for Transport (DfT), and is responsible for operating, maintaining and improving the strategic road network in England on behalf of the Secretary of State for Transport. The Agency’s role in maintaining and improving the network is delivered through a large and complex supply chain through a number and variety of contracts. The Agency also sets and maintains technical standards for roads and structures which contractors are required to adhere to and which are referred to by many local and other national authorities for the roads that they manage.

 

These standards are set down in the Network Management Manual (NMM). The NMM generally describes the processes for the management of the maintenance service including the interface between the Highways Agency, its service providers and other stakeholders. A link to the NMM is here:

http://www.dft.gov.uk/ha/standards/nmm_rwsc/docs/nmm_part_7a.pdf

Section 7.17 of the NMM describes processes that must be followed when canine remains are found on the network, although it does recognise that it is impossible to guarantee that remains can be fully identified due to the high speed nature of the Agency’s roads.

Due to the nature of the processes already in place, the Government has no plans to enforce adherence to the NMM through legislation.  

Yn dilyn y ddeiseb ar-lein a  dadl  ddilynol ym mis Mawrth 2015, cadarnhaodd Mr Hayes, y Gweinidog Trafnidiaeth ar y pryd, y byddai'n ysgrifennu at awdurdodau priffyrdd lleol yn Lloegr i dynnu eu sylw at sefyllfa'r llywodraeth hon. [DW4] 

 

Camau Gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ni ystyriwyd y mater hwn o’r blaen gan y Cyfarfod Llawn nac unrhyw Bwyllgor y Cynulliad.

Camau Gweithredu Llywodraeth Cymru

Ymateb i’r ddeiseb

Mae’r llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, 19 Medi 2017 yn nodi:

[A local authority is] an independent statutory authority and is democratically accountable to its community for the decisions it makes. It is of course important that each local Authority makes the most efficient use of the resources available to it. However, it is also the case that each authority is responsible for managing its own affairs.

It is important that in determining how local resources are allocated and spent on delivering its responsibilities, each authority should engage meaningfully with its communities. We would encourage that people raise directly with Local Authorities any concerns they have with regard to the compulsory scanning of microchips for domestic pets. Contact details are available on the Council’s website. They may also wish to contact their local councillor, who as their elected representative is able to raise concerns with the Council on their behalf.

Mewn perthynas â chŵn, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn cynghori:

I understand the concerns about dogs being found dead. A recent Local Authority survey revealed the majority of respondents routinely scan dog carcasses found on trunk roads and notify the owners where possible.

The Welsh Government introduced legislation, which came into effect in April 2016, requiring the compulsory microchipping of dogs in Wales. The issue of compulsory scanning was considered in the formulation of the microchipping regulations but given the considerations above, we saw no need to set down that Local Authorities compulsorily scan dogs.

Camau gweithredu blaenorol

Mewn ymateb i ohebiaeth RSPCA Cymru ynglŷn â Harvey's Law yng Nghymru , ymatebodd y Dirprwy Weinidog dros Fwyd a Ffermio ar y pryd ar 21 Ebrill 2015, gan gynghori:

Local Authorities across Wales currently fulfil our duty to recover dogs and cats that are killed on the trunk road and motorway network. In the majority of cases they attempt to contact the owners. This is often done as a result of scanning or enquiries.

However, I am aware that this practice does vary throughout Wales and I have therefore asked my officials to make the scanning of information on ID tags and collars and the owner notification process more consistent than it is at present.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.   Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol, fodd bynnag, nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru na'u diwygio fel arall o reidrwydd i adlewyrchu newidiadau dilynol.

 



[1] Mae'r rheoliadau’n eithrio cŵn gwaith ardystiedig fel y'i diffinnir o dan adran 6 (3) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006  a chŵn y byddai eu hiechyd yn cael ei beryglu'n sylweddol pe baent yn cael eu microsglodynnu.


 [DW1]Welsh

 https://www.assembly.wales/cy/gethome/e-petitions/Pages/petitiondetail.aspx?PetitionID=1229

 

 [DW2]Dim Welsh

 [DW3]Dim Welsh

 [DW4]Dim Welsh